Croes, oh

Croeso i Feibl Datblygu.

Sefydlwyd y gwefan ym mis Ebrill, 2006. Dw i wedi anghofio pwy gâth y syniad. Rhyw feddwl ’da fi bod Steffan Cravos wedi rhoi fy enw i Pat Morgan, neu rywbeth. Ta beth, es i draw i weld Pat yn y Gelli, a dod o fan’no gyda bag plastig llawn cuttings a phethau prin i’w rhoi ar wefan Datblygu.

Y syniad oedd cadw archif arlein yma, felly os oes ‘na unrhywbeth gyda ti am y band, sy ddim yma yn barod, rho showt i ni.

Nic Dafis

(Ypdêtiwyd: 20 Ebrill 2011)

(Ac eto: 25 Awst 2019)