Datblygu30

Gan fy mod i ddim yn gallu gadael y gorllewin, rhag ofn i fi droi’n bwmpen eto, fi yw ffan ola Datblygu i weld y sioe Datblygu30 yng nghaffi Waffle, yn y Caerdydd ’na. Diolch, felly, i’r Twll ac i Lowri Haf am bostio adolygiadau a lluniau pert o’r caffi, sy’n cael ei redeg gan Victoria, sy’n chwaer i…

Wel, chwaer pwy yw hon? (Llun gan Lowri Haf).

Mae’r sioe i ddathlu 30 mlynedd ers i Dave a Wyn ddechrau’r band yn ysgol Aberteifi, cyn i ti gael dy eni, ychan.

Caffi Waffle
63 Clive Road
Pontcanna
Caerdydd
029 2034 3087


Cliciwch am fap mwy

Mae’r caffi ar agor dydd Mawrth i Wener 10 tan 5, Sadwrn/Sul 10 tan 3. Bydd yr arddansfa i fyny tan o leia amser y Steddfod.

Maen nhw ar Facebook ac yn trydar @datblygu30.

Mae’r adolygiad ar Culture Colony yn dda iawn hefyd.

Mwy o luniau i ddod – cliciwch y tag datblygu30 i weld mwy.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .