Gan fy mod i ddim yn gallu gadael y gorllewin, rhag ofn i fi droi’n bwmpen eto, fi yw ffan ola Datblygu i weld y sioe Datblygu30 yng nghaffi Waffle, yn y Caerdydd ’na. Diolch, felly, i’r Twll ac i Lowri Haf am bostio adolygiadau a lluniau pert o’r caffi, sy’n cael ei redeg gan Victoria, sy’n chwaer i…
Wel, chwaer pwy yw hon? (Llun gan Lowri Haf).
Mae’r sioe i ddathlu 30 mlynedd ers i Dave a Wyn ddechrau’r band yn ysgol Aberteifi, cyn i ti gael dy eni, ychan.
Caffi Waffle
63 Clive Road
Pontcanna
Caerdydd
029 2034 3087
Cliciwch am fap mwy
Mae’r caffi ar gau ddydd Llun, ond am wn i, ar agor bob dydd arall. Sieco ymlaen llaw yw’r gorau.
Maen nhw ar Facebook ac yn trydar @datblygu30.
Mae’r adolygiad ar Culture Colony yn dda iawn hefyd.
Mwy o luniau i ddod – cliciwch y tag datblygu30 i weld mwy.