Disgyddiaeth

Ddim yn hollol gyflawn o hyd: ambel i drac ar ddetholiadau, ail-fficsiadau, ac ail-fersiynau i ddod. Cliciwch ar y teitlau am fwy o wybodaeth. Ble mae pethau ar gael o hyd, mae dolen ar ddiwedd y cofnod. Cywiriadau/ychwanegiadau yn y blwch sylwadau, da chi.

Still not complete: odd compilation tracks, remixes and cover versions to be added. Click on the titles for more information. Where items are still available, there’s a link at the end of the entry. Corrections/additions in the comments, please.

Albyms a Chasetiau / Albums & Cassettes

1982 – Amheuon Corfforol – Casetiau Neon – NEON 008 – caset, 100 copi.

1983 – Trosglwyddo’r Gwirionedd – Casetiau Neon – NEON 009 – caset, 100 copi.

1984 – Fi Du – Casetiau Neon – NEON 012 – caset, 100 copi.

1984 – Caneuon Serch i Bobl Serchog – Casetiau Neon – NEON 015 – caset, 100 copi.

1988 – Wyau – Recordiau Anhrefn – ANRHEFN 014 – LP a CD.

1990 – Pyst – Recordiau Ofn – OFN 12 – LP.

1991 – Llwybr Llaethog v Ty Gwydr v DJ DRE – Recordiau Ankst – ANKST 025 – LP, caset.

1993 – Libertino – Recordiau Ankst – ANKST 037 – CD, caset.

2014 – Erbyn Hyn – Recordiau Ankst – ANKST 136 – CD

EPs a Senglau / EPs & Singles

1986 – Hwgr-grawth-og – Recordiau Anrhefn – ANRHEFN 008 – EP 7″.

1990 – Pop Peth – Recordiau Ofn – OFN 014c – caset.

1991 – Blwch Tymer Tymor – Recordiau Ankst – ANKST 21 – caset, 1000 copi.

1992 – Maes E – Recordiau Ankst – fflecsi.

1995 – Putsch – Recordiau Ankst 054 – Sengl 7″, caset.

2008 – Cân y Mynach Modern – Ankst – ANKST 121 – sengl 7″. (Sadwrn)

Casgliadau Datblygu / Datblygu Collections

1992 – Peel Sessions – Recordiau Ankst – ANKST 027 – LP, caset (Sadwrn)

1995 – Wyau & Pyst = 32 bom = 1987-90 – Recordiau Ankst – ANKST 060 – caset, CD.

1999 – Datblygu 1985-1995 – Recordiau Ankst – ANKST CD 086 – CD. (iTunes)

2004 – Wyau / Pyst / Libertino – Ankst – ANKST 111 – CD dwbl. (Sadwrn | Amazon | iTunes)

2008 – The Peel Sessions 1987 – 1993 – Ankst – ANKST 119 – CD (Sadwrn | Amazon | iTunes)

Casgliadau Amlgyfrannog / Other Compilations

1984 – Y Gorffennol I’r Presennol – Casetiau Neon – NEON 013 – caset, 1 trac Datblygu.

1985 – Cam o’r Tywyllwch – Recordiau Anrhefn – ANRHEFN 00 – LP, 2 drac Datblygu.

1986 – Gadael yr Ugeinfed Ganrif – Recordiau Anrhefn – LP, 2 drac Datblygu.

1987/88 – Sprat and Mackerel – SPRAT 1 – caset, 1 trac Datblygu, 500 copi.

1988 – Dyma’r Rysait – Recordiau Ofn – OFN 05 – EP 7″, un trac Datblygu.

1988 – Yr Ysbryd Yn y Bag Cysgu / Burning Down The Chapels – Central Slate, SLATE 7 – caset, 3 trac Datblygu.

1990 – Hen Wlad Fy Nhadau – Recordiau Ofn – caset, 2 drac Datblygu.

1993 – Ap Elvis – Recordiau Ankst – ANKST 038 – caset, CD.

1995 – Triskedekaphilia – Ankst – ANKST 61C – caset, 2 drac Datblygu.

1999 – Croeso ’99 – Ankst – ANKSTMUSIKCD089 – CD, 1 trac Datblygu.

2002 – Radio Crymi Playlist Vol 1 1988 – 1988 – Ankst – ANKST 108 – CD dwbl, 6 trac Datblygu.

2005 – Under the Influence – DMC – UTICD006 – CD, 1 trac Datblygu.

2005 – Radio Amgen – Fitamin Un – Fit! 015 – CDr – 1 trac Datblygu.

11 Ateb i “Disgyddiaeth”

  1. wnes i gynhyrchu caset bwtleg o ganeuon datblygu wedi eu recordio mewn gigs gwahanol gan gynnwys llundain, aberystwyth a bangor efo recorder bach llaw, nes i archebu tua 100 ond doeddwn ni ddim am eu gwerthu i unrhyw un os oeddwn i ddim yn meddwl nad oeddyn nhw yn eu prynu am y rhesymau iawn, sef gwerthfawrogiad go iawn a dim plant bach dosbarth canol yn trio edrych yn cwl !! efo’r math yma o farchnata, wnes i dipyn o golled rhwng bob dim ond doedd hynny ddim yn fy mhoeni, ag felly mae gynai dipyn ar ol, adeg steddfod casnewydd tua 1988 dwi’n meddwl oedd o,roedd y safon yn rhyfeddol o dda o gofio sud oedd o’n cael ei neud, dwi’n siwr fod gynai gigs cyfa wedi eu recordio hefyd, datblygu, cyrff, traddodiad ofnus, llwybr llaethog etc mae’r tapiau dal gynai yn rwla, oes gan unrhyw un ddiddordeb ?

  2. Diolch am y neges. Hoffwn i gael copi – mae gen i gopi ail-genhedlaeth (diolch i Pat) ond doedd dim syniad ‘da fi bod copiau gwreiddiol ar ôl.

    Wnei di gysylltu â fi trwy ebost plîs? nicdafis at gmail dot com

    (Gobeithio mod i ddim yn rhy ddosbarth canol. Paid siarad â Johnny R.)

  3. Ac os ti’n fodlon gwerthu’r gweddill am bris rhesymol, allwn ni wneud rhywbeth trwy’r wefan, Paypal etc.

  4. I would also be interested in buying one of these cassettes, and in any live Datblygu recordings. Please contact me at: biscyloo at googlemail dot com
    Thank you.

  5. Diddordeb mawr Glyn – cwrcim at gmail dot com – diolch. Mae gen i gopi gwreiddiol o Amheuon Corfforol ers dyddie ysgol! (paid a becso, nes i ddim brynu e er mwyn edrych yn cwl!)

  6. Swn i’n hoffi gael copi. Hefyd, fasa clywed recordiad byw o Traddodiad Ofnus yn ffantastic hefyd. Mae’n wych fod pethe fel hyn o gwmpas.

  7. Faswn i wrth fy modd yn cael gafael o’r caset hefyd. Fedri di gysylltu a fi trwy wynaptomos@hotmail.com. Dwi’n cofio gyrru ffwrdd i Dave am gopiau o gasetiau gwreddiol Datblygu nol yn yr 80au a dwi di bod yn ffan byth ers hynny. Falch o wybod mod i mor cwl!!

  8. Un arall o bosib i ychwanegu at adran Casgliadau Amlgyfrannog?
    Mae fersiwn o Maes-E wedi ei ail-wampio gan Llwybr Llaethog a’r Tystion ar CD o’r enw ‘Croeso ’99’ oedd am ddim yn Steddfod Ynys Mon 1999 os dwi’n cofio’n iawn – mae gen i gopi yn rhywle.

  9. Diolch Meic. Mae’r fersiwn ‘na ar gael ar iTunes os dw i’n cofio’n iawn – mae e gyda fi ar MP3, ond dw i ddim yn cofio gweld y CD. Wna i ychwanegu’r manylion yn y man.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .