Caneuon Serch i Bobl Serchog

Fformat: Caset, 100 copi.
Label: Casetiau Neon – NEON 015.
Dyddiad: 1984.
Recordiwyd: Stiwdio Fflach, Aberteifi a Gwelfryn (cartref DRE)
Cerddorion: David R. Edwards, T. Wyn Davies, Patricia Morgan.

Traciau

  1. Yn y Lle Yma
  2. Daeardy
  3. Straen
  4. Yr Arswyd
  5. Helbulon
  6. Dros y Pasg

Nodiadau “Caneuon Serch i Bobl Serchog” caset 4 Datblygu

Byd pop Cymraeg: yr un peth â 1974… nid oes ysbryd/arddull gan y pennau-professiynol ffug R&R hynny. Ond ni yw Datblygu…

Y newyddion diweddaraf:
Aelod ychwanegol: Patricia Morgan – Gitar Bâs
Hefyd, yn ystod Haf 84 gwnaeth Datblygu fwy o gynherddau nac mewn un cyfnod gynt. Roedd rhai ohonynt yn flops oherwydd PAs A.Y.B. ond roedd y rhan fwyaf ohonynt yn O.K. serch hynny. Roedd rhaid i ni chwerthin pan glywsom adolygraig radio yn ein cymharu efo Malcolm Gwyon: mae hynny r’un peth â chymharu ni efo Frank Bough gan fod y ddau wedi ymddangos ar y teledu…

Gwastraff arian/amser: recordiodd Datblygu sesiwn radio ar gyfer ‘Cadw Reiat’ ond cafodd ei wrthod gan gynhyrchydd y rhaglen.

Ta waeth dyma pedwerydd caset Datblygu, sy’n gwneud y sg⊚r:

Byd Pop 0 Datblygu 4

Y Caset: Recordiwyd y caneuon yn Aberteifi yn Awst/Medi 1984 – Yn Y Lle Yma + Helbulon yn ‘Stiwdio Fflach’ a’r 4 darn arall yn ‘Stiwdio Gwelfryn’. Y cynhyrchu: Stiwdio Fflach – Wyn Jones; Stiwdio Gwelfryn – Datblygu. Diolch i Wyn Jones ac hefyd i Malcolm Gwyon am ei help e. Hefyd diolch i Emlyn Humphries am ei help, cefnogaeth ac amser. Diolch yn olaf i Graham Bowen am chwarae y ‘pan pipes’ ar ‘Helbulon’.

Y Caneuon: Mae ‘Yn Y Lle Yma’ yn delio gydag ysbryd Aberteifi/Cymru/Y Byd yn ystod ’84 fel mae ‘Dros Y Pasg’. Mae’r darnau eraill yn fwy ‘introspective’. (Sori am y gair Saesneg ond nid wyf am fod yn aelod o’r Orsedd). Os nad ydych yn gallu uniaethu o gwbl efo cynnwys y caset yma, chi’n hapus 100% o’r amser: hoffen i fod…

Y Dyfodol: Mwy o gigs/cynnyrch newydd: casetiau a recordiau/Fyddwn yn cyfrannu at weithgareddau Recordiau’r Anhrefn yn ogystal â rhyddhau casetiau yn gyson. Diolch i Rhys a Sion am eu cynnig i ymddangos ar ‘Recordiau’r Anhrefn’ ac am eu cefnogaeth ers y dechrau.

Am nawr, diolch yn fawr + hwyl.

David R. Edwards (ar rhan Datblygu), Hydref 1984.

Caneuon Serch i Bobl Serchog:

T.Wyn Davies: Drymiau/Allweddellau/Organ Geg/Llais Cefndir etc.
Patricia Morgan: Gitar Bâs/Llais Cefndir
David R. Edwards: Prif Lais/Gitarau/Allweddellau etc.

Cyfansoddwyd y caneuon gan David R. Edwards ;
Trefnwyd y caneuon gan Datblygu.
Cynllun clawr y caset: T. Wyn Davies

Cyfeiriad: Datblygu c/o 7 Y Rhos, Aberteifi, SA43 1NJ

Help llaw: Gair ‘Cosmig’ = system o syniadau trefnus: safonol huh??
‘Daeardy’ = cell o dan ddaear c.f. y fynwent. ie ? na ?
pasg – yr iesu ar y groes, ond mae dynoliaeth hefyd yn diodde.

(Ni chyflwynwyd ‘Help Llaw’ gan pseud academig o Gymro) (Felly y mae’n rwyddach i ddeall na rhai o raglenni ‘difrifol S4C’ (??) )

“Ydych chi’n gallu dibynnu ar eich teimladau a’r hyn sy’n rheoli eich syniadau?

Tu ol pob gobaith, y mae amheuaeth YN Y LLE YMA!” .. singalongseicolegol