Wedi dechrau cynnwys dyfyniadau o ganeuon Datblygu ar y dudalen flaen, ac angen eich help chi, ddarllenwyr a chefnogwyr Datblygu annwyl, wrth adeiladu rhestr hirfaith o eiriau bendigedig.
Y ffordd hawsaf o lawer (i fi) yw ‘sech chi’n dyfynnu’r geiriau isod yn y blwch sylwadau, ynghyd ag enw y gân (neu ffynhonell arall – gallwn ni gynnwys dyfyniadau pobl eraill am y band). Mae’n bosibl bydda i’n ychwengu pethau dw i wedi gweld mewn llefydd eraill, fel Twitter, ond mae’n hawdd i fi golli pethau fan ‘na.
Gymaint o bethau elli di ddyfynnu o Datblygu! Ond wastad di bod wrth ’modd efo’r linell “Sbiais yn dymhestlog ar y cariadon arbrofol yn chwarae gwyddbwyll gyda hylif ei gilydd” o Pop Peth.
Ychwanegwyd!