? Lawrlwythwch Podlediad Sesiynau Radio Cymru gyda @cerysmatthews ?
Dyma sesiwn @Datblygu @patblygu o raglen Heno Bydd Yr Adar Yn Canu yn 1991 ? @therealrhysmwynhttps://t.co/S6lez9JKgM pic.twitter.com/IB5Uu06HIV— Radio Cymru (@BBCRadioCymru) November 26, 2018
Sesiwn “Heno Bydd yr Adar yn Canu”
Mae Pat wedi lanlwytho copi o’r sesiwn byw wnaeth Datblygu ar sioe Nia Melville, ym mis Medi 1991. Gwych o beth:
Intro John Peel
Mae hyn yn lot o hwyl – John Peel yn cyflwyno ei raglen, un o’r rhain sy’n cynnwys sesiwn gan Datblygu.
Trac newydd a lansiad CD Peel Sessions
Newydd gael yr isod gan gwmni Ankst:
datganiad i’r wasg – press release – datganiad i’r wasg – .press release
DATBLYGU yn nol – casgliad Peel Sessions allan ar CD, trac hollol newydd fel sengl a noson o ffilmie am Datblygu yn yr Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Braint gan ankstmusik yw cyhoeddi fod cewri y sin tanddaearol DATBLYGU ar fin ail ymddangos. Mae’r grŵp (David R.Edwards a Pat Morgan ) newydd recordio trac gwbl newydd – ‘Can y mynach modern’ – a fydd yn ymddangos fel sengl ar ankstmusik yn yr haf.
Ma’r band wedi penderfynnu dod at ei gilydd i ddathlu ymddangosiad casgliad o sesiynau y grwp ar gyfer sioe Radio 1 John Peel a fydd yn dod allan ar ddydd Llun Mai y 5ed. (manylion pellach isod)
Mi fydd noson lawnsio ar gyfer y PEEL SESSIONS yn digwydd draw yn Sinema y Drwm yn y Llyfgrell Genedlaethol yn Aberystwyth ar Nos Wener Ebrill y 25ain. (Gweler y poster amgaedig.)
Mi fydd y noson a elwir yn DATBLYGU:Y LLWCH AR EICH SGRIN yn noson o ffilmie am y grwp a fydd hefyd yn gyfle cynta unrhyw le i’r trac newydd gan y band gael ei chwarae yn gyhoeddus.
Hefyd mi fydd y noson yn gyfle cynta i brynu copiau o’r PEEL SESSIONS CD.
Mi fydd y noson hefyd yn gyfle i atgoffa ein hunain o yrfa a dylanwad y grwp arbennig iawn yma a mae ankstmusik yn disgwyl y bydd David a Pat yn mynychu’r noson .
Mae tocynna yn 4 punt yr un ac ar gael o www.ankst,net
Manylion pellach emyr@ankst.co.uk
DATBLYGU THE PEEL SESSIONS 1987-1993 ( ankst119)
Allan – Mai y 5ed 2008
‘You’d have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu’ – John Peel
‘Datblygu are the Welsh Gospel’ – Gruff Rhys
Casgliad cynhwysfawr o holl ganeuon y grwp ar gyfer sioe John Peel ar Radio 1. Dyma fydd y tro cynta’ i’r traciau yma ymddangos ar CD.
- 1987
- BAGIAU GARETH (Gareth’s bags)
- 2.CARPIOG (Ragged)
- CERDDORIAETH DANT (Tooth music)
- NESAF (Next)
- 1988
FANZINE YNFYTYN ( Idiot fanzine)
- CRISTION YN Y KIBBUTZ (Christian in the kibbutz)
- GWLAD AR FY NGHEFN (Land on my back)
- DROS Y PASG ETO (Over Easter again)
- 1991
POP PETH ( Pop thing)
- SLEBOG BYWYDEG (Biology slut)
- NID CHWIWGI PWDIN GWAED (Not a blood pudding pilferer)
- RHAG OFN I CHI ANGHOFIO( In case you should forget)
- 1992
HYMNE EUROPA 1992 (European anthem)
- DIM DEDDF DIM EIDDO (No statute, no Property)
- RAUSCHGIFTSUCHTIGE (Drug addict)
- HABLADOR (Chatterbox)
- 1993
CLWB 11-18 ( Club 11-18 )
- WASTOD ABSENNOL (Always absent)
- MAE ARIAN YN TYFU TU MEWN COED (Money grows inside trees)
- DIAHORREA BERFOL ( Verbal diahorrea)
John Peel – 11 Gorffennaf 1993
Y pumed sesiwn recordiwyd gan Datblygu i sioe John Peel.
Fformat: Sesiwn radio (heb ei ryddhau)
Recordiwyd: 11 Gorffennaf 1993.
Darlledwyd: 13 Awst 1993.
Stiwdio: Stiwdio BBC, Maida Vale 3.
Cerddorion: David R Edwards, Patricia Morgan, Paul O’Brien, Al Edwards, Rheinallt ap Gwynedd, Ryan Minchin
Cynhyrchydd: Mike Engles
Traciau
(Gol. Mai 2012) – mae’r sesiwn bellach ar gael ar y CD
Dolenni
Keeping It Peel – manylion y sesiwn.
John Peel – 3 Mai 1992
Y pedwerydd sesiwn recordiwyd gan Datblygu i sioe John Peel.
Fformat: Sesiwn radio (heb ei ryddhau)
Dyddiad: 3 Mai 1992.
Recordiwyd: Stiwdio BBC, Maida Vale.
Cerddorion: David R Edwards, Patricia Morgan, John Griffiths, Euros Rowlands, Al Edwards, Rheinallt ap Gwynedd, Peredur ap Gwynedd.
Traciau
Dolenni
Keeping It Peel – manylion y sesiwn.
John Peel – 20 Ionawr 1991
Y trydydd sesiwn i sioe Peel.
Rhyddheuwyd ar yr albym Peel Sessions.
Manylion
Recordiwyd: 20 Ionawr 1991
Darlledwyd: 9 Chwefror 1991
Cynhyrchydd: Dale Griffin
Peirianydd: Mike Engles/Fred Kay
Stiwdio: Maida Vale 3, Llundain
Cerddorion
- Patricia Morgan (Guitar, Piano, Organ, Melodica, Bass)
- David Edwards (Guitar, Vocals, Organ, ‘toys’)
- Wyn Davies (‘More Toys’, Rhythmic Accompaniments, Cello)
Traciau
- Pop Peth – 4.39
- Slebog Bywydeg – 1.55
- Nid Chwiwgi Pwdin Gwaed – 2.251
- Rhag Ofn i Chi Anghofio – 2.40
Dolenni
Keeping It Peel – manylion y sesiwn gan y BBC.
Prynu’r albym – siop arlein Ankst.
John Peel – 9 Chwefror 1988
Yr ail sesiwn i sioe Peel.
Rhyddheuwyd ar yr albym Peel Sessions.
Manylion
Recordiwyd: 9 Chwefror 1988
Darlledwyd: 17 Chwefror 1988
Cynhyrchydd: Dale Griffin
Peirianydd: Martin Colley
Stiwdio: Maida Vale 4, Llundain
Cerddorion
- Patricia Morgan (Guitar, Piano, Organ, Melodica, Bass)
- David Edwards (Guitar, Vocals, Organ, ‘toys’)
- Wyn Davies (‘More Toys’, Rhythmic Accompaniments, Cello)
Traciau
- Fanzine Ynfytyn – 3.21
- Cristion yn y Kibbutz – 3.20
- Gwlad ar fy Nghefn – 2.58
- Dros y Pasg Eto – 6.32
Dolenni
Keeping It Peel – manylion y sesiwn gan y BBC.
Prynu’r albym – siop arlein Ankst.
John Peel – 26 Ebrill 1987
Y sesiwn cyntaf recordiwyd i sioe Peel.
Rhyddheuwyd ar yr albym Peel Sessions.
Manylion
Recordiwyd: 26 Ebrill 1987
Darlledwyd: 13 Mai 1987
Cynhyrchydd: Dale Griffin
Peirianydd: Mike Engles/Tim Durham
Stiwdio: Anhysbys (Maida Vale?)
Cerddorion
- Patricia Morgan (Guitar, Piano, Organ, Melodica, Bass)
- David Edwards (Guitar, Vocals, Organ, ‘toys’)
- Wyn Davies (‘More Toys’, Rhythmic Accompaniments, Cello)
Traciau
- Bagiau Gareth – 2.41
- Carpiog – 2.15
- Cerddoriaeth Dant – 1.34
- Nesaf – 2.17
Dolenni
Keeping It Peel – manylion y sesiwn gan y BBC.
Prynu’r albym – siop arlein Ankst.