Trac newydd a lansiad CD Peel Sessions

Newydd gael yr isod gan gwmni Ankst:

datganiad i’r wasg – press release – datganiad i’r wasg – .press release

DATBLYGU yn nol – casgliad Peel Sessions allan ar CD, trac hollol newydd fel sengl a noson o ffilmie am Datblygu yn yr Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Braint gan ankstmusik yw cyhoeddi fod cewri y sin tanddaearol DATBLYGU ar fin ail ymddangos. Mae’r grŵp (David R.Edwards a Pat Morgan ) newydd recordio trac gwbl newydd – ‘Can y mynach modern’ – a fydd yn ymddangos fel sengl ar ankstmusik yn yr haf.

Ma’r band wedi penderfynnu dod at ei gilydd i ddathlu ymddangosiad casgliad o sesiynau y grwp ar gyfer sioe Radio 1 John Peel a fydd yn dod allan ar ddydd Llun Mai y 5ed. (manylion pellach isod)

Mi fydd noson lawnsio ar gyfer y PEEL SESSIONS yn digwydd draw yn Sinema y Drwm yn y Llyfgrell Genedlaethol yn Aberystwyth ar Nos Wener Ebrill y 25ain. (Gweler y poster amgaedig.)

Mi fydd y noson a elwir yn DATBLYGU:Y LLWCH AR EICH SGRIN yn noson o ffilmie am y grwp a fydd hefyd yn gyfle cynta unrhyw le i’r trac newydd gan y band gael ei chwarae yn gyhoeddus.

Hefyd mi fydd y noson yn gyfle cynta i brynu copiau o’r PEEL SESSIONS CD.

Mi fydd y noson hefyd yn gyfle i atgoffa ein hunain o yrfa a dylanwad y grwp arbennig iawn yma a mae ankstmusik yn disgwyl y bydd David a Pat yn mynychu’r noson .

Mae tocynna yn 4 punt yr un ac ar gael o www.ankst,net

Manylion pellach emyr@ankst.co.uk

DATBLYGU THE PEEL SESSIONS 1987-1993 ( ankst119)

Allan – Mai y 5ed 2008

‘You’d have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu’ – John Peel

‘Datblygu are the Welsh Gospel’ – Gruff Rhys

Casgliad cynhwysfawr o holl ganeuon y grwp ar gyfer sioe John Peel ar Radio 1. Dyma fydd y tro cynta’ i’r traciau yma ymddangos ar CD.

  • 1987
    1. BAGIAU GARETH (Gareth’s bags)
    2. 2.CARPIOG (Ragged)
    3. CERDDORIAETH DANT (Tooth music)
    4. NESAF (Next)
  • 1988
      FANZINE YNFYTYN ( Idiot fanzine)

    1. CRISTION YN Y KIBBUTZ (Christian in the kibbutz)
    2. GWLAD AR FY NGHEFN (Land on my back)
    3. DROS Y PASG ETO (Over Easter again)
  • 1991
      POP PETH ( Pop thing)

    1. SLEBOG BYWYDEG (Biology slut)
    2. NID CHWIWGI PWDIN GWAED (Not a blood pudding pilferer)
    3. RHAG OFN I CHI ANGHOFIO( In case you should forget)
  • 1992
      HYMNE EUROPA 1992 (European anthem)

    1. DIM DEDDF DIM EIDDO (No statute, no Property)
    2. RAUSCHGIFTSUCHTIGE (Drug addict)
    3. HABLADOR (Chatterbox)
  • 1993
      CLWB 11-18 ( Club 11-18 )

    1. WASTOD ABSENNOL (Always absent)
    2. MAE ARIAN YN TYFU TU MEWN COED (Money grows inside trees)
    3. DIAHORREA BERFOL ( Verbal diahorrea)

Datblygu - Y Llwch ar EIch Sgrîn

John Peel – 11 Gorffennaf 1993

Y pumed sesiwn recordiwyd gan Datblygu i sioe John Peel.

Fformat: Sesiwn radio (heb ei ryddhau)
Recordiwyd: 11 Gorffennaf 1993.
Darlledwyd: 13 Awst 1993.
Stiwdio: Stiwdio BBC, Maida Vale 3.
Cerddorion: David R Edwards, Patricia Morgan, Paul O’Brien, Al Edwards, Rheinallt ap Gwynedd, Ryan Minchin
Cynhyrchydd: Mike Engles

Traciau

(Gol. Mai 2012) – mae’r sesiwn bellach ar gael ar y CD

Dolenni

Keeping It Peel – manylion y sesiwn.

John Peel – 20 Ionawr 1991

Y trydydd sesiwn i sioe Peel.

Rhyddheuwyd ar yr albym Peel Sessions.

Manylion

Recordiwyd: 20 Ionawr 1991
Darlledwyd: 9 Chwefror 1991
Cynhyrchydd: Dale Griffin
Peirianydd: Mike Engles/Fred Kay
Stiwdio: Maida Vale 3, Llundain

Cerddorion

  • Patricia Morgan (Guitar, Piano, Organ, Melodica, Bass)
  • David Edwards (Guitar, Vocals, Organ, ‘toys’)
  • Wyn Davies (‘More Toys’, Rhythmic Accompaniments, Cello)

Traciau

Dolenni

Keeping It Peel – manylion y sesiwn gan y BBC.

Prynu’r albym – siop arlein Ankst.

John Peel – 9 Chwefror 1988

Yr ail sesiwn i sioe Peel.

Rhyddheuwyd ar yr albym Peel Sessions.

Manylion

Recordiwyd: 9 Chwefror 1988
Darlledwyd: 17 Chwefror 1988
Cynhyrchydd: Dale Griffin
Peirianydd: Martin Colley
Stiwdio: Maida Vale 4, Llundain

Cerddorion

  • Patricia Morgan (Guitar, Piano, Organ, Melodica, Bass)
  • David Edwards (Guitar, Vocals, Organ, ‘toys’)
  • Wyn Davies (‘More Toys’, Rhythmic Accompaniments, Cello)

Traciau

Dolenni

Keeping It Peel – manylion y sesiwn gan y BBC.

Prynu’r albym – siop arlein Ankst.

John Peel – 26 Ebrill 1987

Y sesiwn cyntaf recordiwyd i sioe Peel.

Rhyddheuwyd ar yr albym Peel Sessions.

Manylion

Recordiwyd: 26 Ebrill 1987
Darlledwyd: 13 Mai 1987
Cynhyrchydd: Dale Griffin
Peirianydd: Mike Engles/Tim Durham
Stiwdio: Anhysbys (Maida Vale?)

Cerddorion

  • Patricia Morgan (Guitar, Piano, Organ, Melodica, Bass)
  • David Edwards (Guitar, Vocals, Organ, ‘toys’)
  • Wyn Davies (‘More Toys’, Rhythmic Accompaniments, Cello)

Traciau

Dolenni

Keeping It Peel – manylion y sesiwn gan y BBC.

Prynu’r albym – siop arlein Ankst.