Diolch, unwaith eto i’r tudalen Datblygu Trideg ar Facebook, dyma fi’n darllen adolygiad gwych o’r llyfr ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music gan Sarah Hill (d.s. nid y llyfr gan Hefin Wyn sy’n benthyg o’r un gâ SFA am ei deitl, ond traethawd academaidd cyhoeddwyd yn America ym Mhrydain gan Ashgate Acedemic Publishers.
Gwelais i fersiwn cynnar o’r deunydd ar Datblygu flynyddoedd yn ôl, ond am wn i1, dyma’r tro cyntaf i fi wybod bod y llyfr wedi’i gyhoeddu.
Ac mae’n costio $99. Un am y wishlist, falle.
Ta beth, dyma ddetholiad o adolygiad ardderchog o’r llyfr gan John L Murphy, un o “top reviewers” Amazon US. Mae’r adolygiad yn werth ei ddarllen ar ei hyd, ond dyma beth sy ’da fe i’w ddweud am Datblygu a bandiau eraill eu cyfnod:
Datblygu, whose sound Hill barely notices (it resembles Mark E Smith’s The Fall), has in Dave Edwards a talented tortured voice. Paeans to bleak economics, failed love, and complacent Welshness all leap off of the page as much as Jarman’s verses. Hill rightly ties into Roland Barthes’ definition of the “grain” of the hand, the body, the voice “the whole carnal stereophony” of Edwards’ vocals. Y Tystion’s duo cleverly updates Gil Scott-Heron’s “The Revolution Will Not Be Televised” to lambast, like Datblygu, the “crachach”(the word’s oddly absent from this volume) establishment which militant youth perceive as having commandeered the gains of the 1960s rebels such as Iwan and settled into the Caerdydd comforts of Radio Cymru and SG4. While Welsh can be broadcast into not only TV and radio but now the Net, whether or not the angrier voices of discontent can find their Cymric shout-out remains to be seen– as with the rest of the globe given the state of our networks. I’d be intrigued to find how indie artists fare in Wales and Welsh with MySpace, filesharing, and raves, but these outlets either postdated Hill’s forty-year limit or were beyond its scope. Certainly, much of her investigation reproduces lengthy lyrical excerpts in her engagingly blunt translation that express not only Iwan’s “Carlo” but embittered disdain and eloquent frustration of those from post-punk, into hip-hop, and raised unwillingly under ‘Magi’ Thatcher.
1. Y twpsyn. Wnes i ddarllen yr adolygiad yma yn 2008, felly dw i wedi gwybod bod y llyfr ar gael ers o leia pedair blynedd. [nol]
Golygwyd: wedi newid y linc ola i fynd i flog John Murphy, yn lle’r tudalen Amazon.
It’s a sign of galloping senility when after reading the full review on Murphy’s blog for the “first time”, I find that the first blog comment is by some bloke called… Nic Dafis.
Four years is a long time on the internets.
Diolch am y sylw, Nic. Dwi’n teimlo bod rhaid i mi esbonio cwpl o bethau fan hyn: yn gyntaf, cyhoeddwyd y llyfr gan wasg academaidd Brydeinig, sef Ashgate. Mae’n seiliedig ar fy noethuriaeth y wnes i ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2002, sy wedi bod ar gael yn llyfrgell y brifysgol a’r llyfrgell genedlaethol ers hynny. Daeth fersiwn Ashgate mas yn 2007, ac er ei fod yn ddrud uffernol (dwi’n cytuno’n llwyr!) y cynulleidfa iddo yw llyfrgelloedd, academyddion, ac yn y blaen.
Nes i’n siwr bod y bobl sy’n cael eu crybwyll yn y llyfr hefyd wedi derbyn copi ohono, gyda’r gobaith y byddan nhw’n gweld fy astudiaeth yn un parchus – neu, o leiaf, nid un hollol anghywir. Cyn i mi gwpla’r doethuriaeth yn 2002 cysylltais â Dave Datblygu i drafod y geiriau a neud yn siwr mod i wedi deall ei gyd-destun yn iawn. Yn y cyfnod ymchwil o’n i’n ofalus i beidio â siarad â’r bobl o’n i’n sgrifennu amdanynt er mwyn cadw pellter academaidd; ond cyn i mi gyhoeddi’r llyfr, ac er mwyn sicrhau hawlfraint y geiriau ac yn y blaen, roedd rhaid i mi gysylltu â’r cerddorion i gyd ac esbonio’r prosiect iddyn nhw. Yn enghraifft Gruff Rhys, naeth e ofyn i mi newid cwpl o bethau oedd ddim yn eistedd yn iawn gyda fe, ac mi wnes i â phleser.
Pan welais i’r adolygiad uchod y tro cynta yn 2007 o’n i’n falch iawn ohono, ond wrth gwrs does dim gwerth trio esbonio rhai bethau. Er enghraift, sgrifennais i draethawd MA cyfan mwy neu lai ar Gorky’s Zygotic Mynci, felly er mwyn neud rhywbeth newydd ar gyfer y PhD o’n i’n methu ail-adrodd yr un pwyntiau. Hefyd, sgrifennais i fwy yn yr MA am ‘swn’ y gerddoriaeth, ac yn y PhD (a’r llyfr) o’n i’n ofalus i esbonio mod i’n edrych ar ystyr y geiriau fel negeseuon syth am Gymreictod yn y wahanol cyfnodau. Eniwê. Mae’r cwestiwn o debygrwydd teitl fy llyfr a theitl llyfr Hefin Wyn yn bwnc testun arall.
Eto, diolch am y sylw.
Diolch Sarah. Dw i wedi golygu’r cofnod uchod tipyn bach i gywiro’r busnes am Ashgate. Mae’r sefyllfa gyda phrisiau llyfrau academaidd yn warthus, yn enwedig nawr ei bod mor hawdd i’w cyhoeddi’n electronig. Gobeithio bod pethau am newid.