Wedi ffeindio sgan o’r ffleiar (tocyn?) hwn ar Flickr sy’n sôn am “Parti Nid’dolig / Saturnalia”. Roedd y gig yn Club 23, Seabank, ond dw i ddim yn gwybod beth oedd hynny, ac mae fy Google-fu wedi fy methu am y tro cynta heddi.
(7/5/12) Diolch i Iwan am ei nodyn isod:
Clwb 23 yn noson oedd yn digwydd yn achlysurol yn Aberystwyth (o’r côd post SY23 am wn i) mewn amryw o lefydd fel y Seabank a’r Boar’s Head.
Clwb 23 yn noson oedd yn digwydd yn achlysurol yn Aberystwyth (o’r côd post SY23 am wn i) mewn amryw o lefydd fel y Seabank a’r Boar’s Head. Phil a Marc ydi’r P ac M yn credit y llun. Roedden nhw’n gweithio yn Radio Ceredigion ar y pryd, ddes i nabod nhw ar ôl bod yn wirfoddolwr ysgol yna. Parch mawr iddyn nhw am drin arddegwr lletchwith fatha ffrind! Dwi’n meddwl mewn ryw barti rhyfedd yn fflat nhw nes i gwrdd â Dave yn iawn tro gynta dweud gwir. Dwi’n cofio cael lot o amseroedd da mewn nosweithiau Clwb 23 ond dim mwy na hynny… bosib bydd @GwernT neu @Gwion23 yn gallu dweud mwy!
Diolch i ti! Wedi diweddaru’r cofnod.