Cyfweliad newydd â David R. Edwards

Cyrhaeddodd y cyfweliad newydd sbon yma drwy’r post ddoe. Diolch yn fawr i David ac i’r cyfaill anhysbys wnaeth lunio’r cwestiynau.

1. Beth wyt ti’n meddwl am y ffaith bod gwefan ar gael i gyd am Datblygu?

Wel, mae’n dda bod yn rhan o’r byd modern. Ond mae’n rhyfedd fod rhywun wedi mynd i’r trafferth o wneud gwefan i gyd am y band. Mae’n anrhydedd. Diolch Nic.

2. Ar beth wyt ti’n gwrando arno ar hyn o bryd? Wyt ti’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth newydd, y radio, neu rywbeth arall?

Radio 6, y pêl droed ar Radio 5, Huw Stephens ar Radio Cymru a hen recordiau gan bobl fel Joy Division. Hefyd Radio 2 ond ddim Radio 1 ers i John Peel farw.

3. Beth oedd gig gorau Datblygu yn bersonol i ti?

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o chwarae o flaen pobl – felly fy hoff perfformiadau yw y pumed sesiwn Peel, a perfformiad byw recordion ni i ‘Fideo Naw’ – y caneuon “Rauschgiftsuchtige” a “Dim Deddf, Dim Eiddo”.

4. Beth yw dy hoff gân Datblygu a pham?

Mae’n amrywio o wythnos i wythnos. Ar y funud rwy’n hoff o “Cyn Symud i Ddim” o 1985, fersiwn Peel o “Gwlad ar fy Nghefn” a un cân o’r pumed sesiwn Peel – “Mae Arian yn Tyfu Tu Mewn Coed”. Pam? Oherwydd eu bod yn cyflawni beth roeddwn eisiau.

5. Wnest ti gyfarfod John Peel wrth recordio’r holl sesiynau Peel? Sut oedd e’n teimlo ei fod yn cymryd gymaint o sylw o’r band?

Cwrddes i â John yn Aberhonddu yn 1986, doedd e ddim yn y stiwdio pan roeddwn yn recordio. Roedd yn grêt cael sylw ganddo. Roeddwn wedi bod yn gwrando ar ei raglen ers 1978 felly roedd yn anrhydedd fod yn rhan o’i sioe. Rwy’n ei golli yn fawr.

6. Pam wyt ti’n cefnogi Chelsea?

Roedd Dad a Mam yn cefnogi Leeds yn rownd olaf Cwpan F.A. 1970 am fod ganddynt golgeidwad Cymraeg – roedd rhaid i fi fod yn wahanol felly cefnogais y tîm arall. Chelsea enillodd ac rwy i wedi eu cefnogi ers hynny.

7. Ydy Cymru’n mynd i ennill cwpan y byd nes ymlaen y flwyddyn yma?

Gobeithio. Ond mae timau fel Awstralia a Seland Newydd rhy gryf.

8. Lle yw hoff le yn y byd yr wyt ti wedi ymweld â?

Tri ateb. Yn gyntaf – ystafelloedd gwely cyn cariadon. Yn ail – stiwdios y B.B.C. yn Maida Vale, Llundain. Yn drydydd – Tesco Aberteifi, lle mae popeth rwy’i angen ar gael.

9. Os bydde ti’n gallu recordio sesiwn yn y stiwdio gyda unrhywun, byw neu farw, pwy fyset ti’n dewis?

“Toss up” rhwng Kurt Cobain a Frank Sinatra. Tu allan i fyd cerddoriaeth – Charles Bukowski. Mae rhain i gyd wedi marw yn anffodus.

10. Oes gen ti unrhyw fwriad recordio mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol?

Dydw i heb pigo lan y gitar ers dros degawd felly nid yw’n debygol.

11. Pwy yw dy hoff fand/artist Gymraeg erioed? Pam?

Pop Negatif Wastad. Gwnaethon nhw un albwm. Roeddwn yn ffrindiau gyda Esyllt a Gareth ac roedd yn grêt clywed eu gwaith.

12. Pwy yw dy hoff fand/artist rhyngwladol erioed? Pam?

The Fall. Am fod Mark Smith yn athrylith ac am fod e wedi cadw i fynd am 30 blwyddyn.

13. Beth yw dy hoff frecdan?

Caws a tomato – dydw i ddim yn bwyta cig.

14. Wyt ti’n ymweld â’r we o gwbl?

Nac ydw. Sdim cyfrifiadur gyda fi.

15. Oes gen ti unrhywbeth i ychwanegu?

Dim ond dweud diolch m y cyfweliad. Mae’n dda cael ymarfer yr ymennydd. A roedd y cwestiynau yn fwy perthnasol na’r rhai roedd rhaid diodde yn yr ysgol a’r coleg ac mewn cyfweliadau ar gyfer swyddi.