Campwaith arall gan dafyddt: Fideo Datblygu – Santa a Barbara, wedi ei chwarae o chwith, fesul curiad.
Fideos recordiwyd ar gyfer y teledu. Rhowch glec ar deitl y gân am fwy o fanylion.
Campwaith arall gan dafyddt: Fideo Datblygu – Santa a Barbara, wedi ei chwarae o chwith, fesul curiad.
“Brechdanau Tywod” + “Cristion yn y Kibbutz” ar raglen “Stîd”, cynhyrchiad HTV Cymru ar S4C, 10 Rhagfyr? 1987.
Un arall o’r gig yn Harlow. Bach o sioc i glywed David droi i Saesneg yng nghanol y gân: I’d just better explain that: We’re a Janice Long band, we play twangy guitars, we hang out in bars…
O, blydi hel. Fideo o’r gig yn Harlow, Mai ’86.
Maen nhw ati eto:
Diwrnod arall, fideo “newydd” Datblygu arall.
Roc ‘Rol Te (HTV Cymru). Gorffennaf 16, 1986 (Diolch, Dafydd
Amser fideo nesa o archif Pat, ac mae hwn yn sbeshial iawn. Helbulon, o’r caset Caneuon Serchog i Bobl Serchog. Trac dw i erioed wedi clywed o’r blaen, am wn i.
Hefyd, cyfweliad â Pat a David gyda’i gilydd, ac adolygiad ffantastig o rifyn 3 eu ffansîn. A’r mwstash! A’r mullet!
Fideo gwyll arall wedi’i bostio gan Pat a Victoria, sef clip o Datblygu yn perfformio Casserole Efeilliaid ar The Tube. Roedd Y Cyrff a’r Anrhefn ar yr un rhaglen, a’r cyfan wedi’i gyflwyno gan John Peel
Mae’r fideo yma wedi’i bostio ar YouTube o’r blaen, ond mae safon y llun ar hyn yn well o lawer ar hyn:
Fideo “newydd” arall wedi ymddangos ar y Tiwbs, diolch i Victoria Morgan, a byrthdei boi, Iwan Standley, y tro ‘ma i’r clasur o gân, Y Teimlad.
Wedi gweld y llun yma cwpl o weithiau hyd yn hyn, unwaith mewn sioe yng Ngwersyll yr Urdd (!) ac yn fwy diweddar, mewn arddangosfa o waith Malcolm yn Theatre Mulled Anne.
Mae hanes Malcolm a Datblygu yn mynd yn ôl reit at y dechreuad, wrth gwrs. Fe wnaeth ryddhau y casetiau cynnar Amheuon Corfforol, Trosglwyddo’r Gwirionedd, a Fi Du ar ei label, Recordiau Neon.
Perfformiwr oedd Malcolm hefyd. Dyma fe’n canu un o’i ganeuon ei hun, yn gynnar (iawn?) yn yr 80au.
Mae ypdêts ar y gwefan hwn fel bysus Pontgarreg; does dim un ers misoedd, ac wedyn mae un yn dod bob 10 munud rhyw nos Wener pan ti wedi hen dderbyn bod pawb sy’n gweithio i’r Brodyr Richard wedi mynd at eu gwobrau.
Wel, ocê, ddim cweit fel hynny. Lot o ypdêts, dyna beth dw i’n dweud. Dw i’n trial dal i fyny ar ôl bod yn ddiog.
Y fideo yma, er enghraifft, wedi cyrraedd YouTube yr wythnos hon, ar ôl “casglu llwch am flynyddoedd”, yn ôl Victoria Morgan. Gwylies i hwn yn y gwely y bore yma, a dyna’r dechreuad gorau i ddydd Gwener dw i’n cofio ers tro byd.
Wythnos diwetha, wnaeth Victoria lanlwytho fideo arall dw i erioed wedi gweld o’r blaen, sef y fersiwn gwreiddiol o Maes E:
Sut yn y byd mae’r pethau yma heb fod ar y we cyn nawr?
Does dim digon o ail-fersiynau caneuon Datblygu, nag oes?
Mae’r trac ar gael o wefan Ankst, ar feinyl hyfryd hyfryd.
Trac arall o’r ffansîn DVD o Ankst, Crymi #2.
Fideo i’r trac Syrffedu oddi ar y DVD Ankst, Crymi #2. Mae’r DVD ar gael yn rhad ac am ddim, os ti’n prynu rhywbeth o wefan Ankst.
Trac ar yr albym Libertino.
Recordiwyd fersiwn gwahanol i sioe John Peel, Mai 1992.
Cân rhyddheuwyd fel sengl, ac hefyd (mewn fersiwn gwahanol) fel trac ar Libertino.
Hefyd yn enw y wefan drafod maes-e.com.
Mae fersiwn arall o’r gân ar gael ar iTunes, ac ar y casgliad Ankst Croeso ’99.
Trac ar y caset Pop Peth. Mae e hefyd ar y casgliad Datblygu 1985 – 1995.
Recordiwyd fersiwn o’r gân i sioe John Peel; mae’n ymddangos ar y record/caset Peel Sessions.
Diolch i Dafydd am rannu’r fideo ar YouTube.
Ymddangoswyd y trac yn Festive Fifty John Peel, rhif 29, 1992.
Trac o’r caset Blwch Tymer Tymor. Ar gael ar y casgliad Datblygu 1985 – 1995.
Hawlfraint Criw Byw/S4C 1991
Trac o’r albym Wyau. Ar gael ar y CD dwbl Wyau, Pyst, Libertino.
Recordiwyd fersiwn o’r gân i sioe John Peel; mae’n ymddangos ar y record/caset Peel Sessions.
Fideo o David R. Edwards a Llwybr Llaethog yn wneud fersiwn o’r gân:
Hawlfraint Criw Byw/S4C 1991
Diolch i Dafydd am rannu’r fideo ar YouTube.