Rhagor o luniau Datblygu 30

Cyrhaeddodd lwyth arall o luniau o’r arddangosfa heddi, sy’n wedi tyfu dros yr wythnosau diwetha: mae’r batch ‘ma yn cynnwys sawl golwg agos o bethau dw i heb sylwi arnynt o’r blaen, fel poster am y gig hawliau anifeiliaid, a llun o datŵ Sarah Datblygu. Hoff iawn o’r casetiau mewn ffrâm, hefyd.

Diolch yn fawr i Victoria am eu rhannu. Cliciwch ar y lluniau cryno i’w chwyddo.

Rhyw Ddydd, Un Dydd, 7/12/91

Gig anferth ym Mhontrhydfendigaid, i godi arian at Gymdeithas yr Iaith. Yn ôl Emyr Williams, ar ei raglen radio Helo rhywbeth newydd, ffarwel rhywbeth hen (2009):

Yn syml, mae’r mudiad pwyse CYIG wedi rhedeg allan o bres ac mae ‘na rhyw fath o gig Iaith Aid yn digwydd efo dros 20 o grwpie ac artistiaid Cymru yn dod at ei gilydd i chwara am ddim i godi arian.

Yn sicr ma hwn yn rhwy fath o gydnabyddiaeth fod rol y gymdeithas wedi bod yn allweddol ond hefyd mae ‘na doriad yn digwydd yn y berthynas rhwng y ddau.

Un waith eto, roedd Medwyn Jones yn tynnu lluniau. Diolch iddo am eu cyhoeddu dan drwydded Comins Creadigol.

Datblygu

Datblygu

Datblygu

Datblygu

Fuoch chi yno? Rhannwch eich atgofion melysion, neu surion, yn y blwch bwrw bol isod.

Pesda Roc, 13/7/85

Gŵyl roc ym Methesda, ar yr un diwrnod â gŵyl fach arall. Gwell lein-yp yn Pesda, rhaid dweud: Y Cyrff, Machlud, Mwg, Llwybr Cyhoeddus, Tanjimei, Pryd Ma Te?, Brodyr y Ffin, Datblygu, Tynal Tywyll, Maraca, Ficer, Eryr Wen, Chwarter i Un, Dinas Naw. (Yn ôl hyn.) Dim sôn am Phil Collins yn agos i’r lle.

Dyma’r gig lle tynnodd Medwyn Jones ei luniau eiconeg o’r band, ac llawer o fandiau eraill hefyd.

Datblygu

“A photo in the booklet for Wyau/Pyst/Libertino, the essential collection of Datblygu albums, shows a temporary stage housed on a huge truck, somewhere in Wales, covered by a tarpaulin and occupied by Datblygu themselves. You have to look twice to notice anyone apart from vocalist David R Edwards, who’s standing on the lip and barking at six children sitting on the grass wearing anoraks. It’s an image so dreary and purgatorial, you imagine that despite being a black and white picture, it was taken using colour film. Intentionally or otherwise, it conveys the notion of a prophet unrecognised in his own land, which is at least a half-truth…”

(Plan B)

Datblygu

Pat Morgan, Datblygu

David R Edwards, Datblygu

(Y lluniau uchod i gyd wedi’u rhannu ar Flickr GanMed64, dan drwydded Comins Creadigol. Peidiwch ag eu defnyddio heb roi cydnabyddiaeth iddo, da chi.)

Oes atgofion gyda chi o’r gig hwn? Oedd e mor ddiflas ag mae’n edrych yn y lluniau? Dreary and purgatorial yn swnio braidd yn harsh i fi, ond doeddwn i ddim yna.

Y Cymylau

Wnaeth Gwenfair Griffiths bostio’r lluniau bendigedig yma ar Twitter yn gynharach heddi.

Dyma band cyntaf Pat Morgan. Bach yn wahanol i Datblygu, ar ran arddull, dwedwn i.

Linda, y ferch yn y canol, yw chwaer arall Pat. Teulu llawn talent.

Yn ôl y sôn, oedd band arall gyda Pat, cyn iddi ymuno â Datblygu, sef Slugbait. Methu aros dod ar hyd i’w lluniau nhw.

Portread David gan Malcolm Gwion

88 David

Wedi gweld y llun yma cwpl o weithiau hyd yn hyn, unwaith mewn sioe yng Ngwersyll yr Urdd (!) ac yn fwy diweddar, mewn arddangosfa o waith Malcolm yn Theatre Mulled Anne.

Mae hanes Malcolm a Datblygu yn mynd yn ôl reit at y dechreuad, wrth gwrs. Fe wnaeth ryddhau y casetiau cynnar Amheuon Corfforol, Trosglwyddo’r Gwirionedd, a Fi Du ar ei label, Recordiau Neon.

Perfformiwr oedd Malcolm hefyd. Dyma fe’n canu un o’i ganeuon ei hun, yn gynnar (iawn?) yn yr 80au.

Lluniau Pesda Roc 1985 (ac eraill)

Mae GanMed64 wedi postio set o luniau Pesda Roc 1985 i Flickr, sy’n cynnwys dyrnaid o luniau Datblygu. Mae cwpl dw i wedi gweld o’r blaen (un adnabyddus iawn o David a’r un bach yn drist ‘ma) ond hefyd un dw i ddim yn ei nabod o Pat, wedi’i bliso m’as ar y bas.

[Gol. 7/9/09]

Mwy o luniau gan yr un ffotograffydd, y tro ‘ma o’r gig “Fy Nhethau yn Ffrwydro gyda Mwynhad”, Gwesty’r Marine, Aberystwyth, Awst 30ain 1986.

Dave a Pat a Pat wrth ei hunan.

[Gol. 10/09/09]
Mae Med wedi postio mwy o’i luniau, a’u rhoi mewn set Flickr, Datblygu i gyd.