Datblygu “Beibl Datblygu”

Oes syniadau am ffyrdd i wella’r wefan? Dyma’r lle i adael sylwadau.

Any ideas on how the site could be improved? Here’s the place to leave suggestions.

6 Ateb i “Datblygu “Beibl Datblygu””

  1. Mae rhywun ar Facebook wedi cwyno am y testun llwyd ar gefndir du, ac a bod yn onest dyw e ddim rhywbeth dw i’n hapus iawn amdano chwaith.

    Wrth gwrs mae’n bosibl newid pethau fel hyn dros dy hunan, ond dw i’n gwybod nid pawb sy’n ddigon hyderus i’w wneud.

    Fel mae’n digwydd, mae’r thema WP yma yn dod â dewis o “olau” a “tywyll”. Wna i wasgu’r botwm nawr a gweld beth yw ymateb ein darllenwyr ffyddlon.

  2. Baswn i’n deud yn bersonol mai cefndir du sy’n gweddu’r pwnc orau! wyn yn rhy olau ac yn rhy cheery…

    Ddim yn ymwenud ar wefan gyfan, ond jyst meddwl o’n i, (a dw i’n siwr galli di weld fi’n twitsio fel siawl wrth deipio), ar gyfer y ddolen Datblygu 30 at y top, yn hytrach na jyst dolen at y Facebook (sy ddim gyda manylion sylfaenol fel pryd mae’r lle ar agor na tan pryd mae’r arddangosfa ymlaen), bod ti’n creu tudalen statig, falle gyda’r url datblygu.com/30 neu datblygu.com/arddangosfa, yn cynnwys “mond”
    – manylion agor Waffle (http://www.facebook.com/pages/Waffle/108037105897446?sk=infosy ddim ar dudalen Faebook y caffi hyd yn oed)
    – pryd mae’r arddangosfa ymlaen nes
    – doeleni at FB a Twitter yr arddangosfa
    – ac yn olaf, a dyma ble mae’r sbort yn dechrau, dolen ar pob cofnod yma yn ymwneud a’r arddarngosfa, falle wedi eu tagio gyda datblygu30 neu rhywbeth?

    Falle bydd yn edrych braidd yn wag a diflas, ond o leiaf bydd yn url byr/hawdd ei gofio/rhoi allan ar lafar/ei tagio ar hyd waliau… a bydd popeth mewn un lle.

  3. Syniad gwych Rhys. Ro’n i’n bwriadu wneud rhywbeth fel ‘na pan wnes i’r tudalen yna, ond yn y diwedd, es i am yr opsiwn diog, a rhoi ad-gyfeiriad arno fe yn lle.

    Wna i sorto rhywbeth nawr.

  4. Wedi mynd am yr opsiwn hanner ddiog y tro ‘ma, a chopio cynnwys y cofnod cyntaf mewn i’r tudalen, gan ychwanegu bach mwy o wybodaeth am y sioe.

  5. Cwl. Mae’r arddangosfa lo-fi yma wedi creu cymaint o ymateb ar-lein gan bobl, yn fwy nag unrhyw arddangosfeydd eraill sy erioed wedi eu cynnal yn Nhymru ddychmyga i, a’r rheini gyda £££ o arian cyhoeddus wedi mynd i’w rhoi at ei gilydd a’u marchanta. Diolch am dynnu nhw i gyd at ei gilydd fel hyn.

Mae'r sylwadau wedi cau.