Newydd ychwanegu dau beth o’r archifau – Sesiwn John Peel o 1992, a’r cyfweliad wnaeth DRE ar sioe Beti a’i Phobl yn 2001.
Hablador
Recordiwyd i sioe John Peel, Mai 1992.
Hymne Europa 1992
Recordiwyd i sioe John Peel, Mai 1992.
Cyfweliad Beti George
Yn 2001, buodd David R. Edwards ar sioe “Beti a’i Phobl”, yn siarad am ei fywyd a’i waith. Darlledwyd y cyfweliad ar 15 Gorffennaf 2001.
Dyma’r cyfweliad cyfan, ond heb y gerddoriaeth dewisodd gan David.
Diolch yn fawr i Shôn am y recordiad gwreiddiol, ac i Dafydd am ffeindio copi arall ar ôl i fi ddileu fy nghyfrif Soundcloud!
(Diweddariad 2021) Mae’r cyfweliad bellach ar gael ar wefan BBC Radio Cymru – diolch i Robert Bruce ar Twitter am dynnu fy sylw at hyn.
Diolch hefyd i Carl, am y llun uchod, a ddaeth o’i flogiad am y rhaglen, sy’n cynnwys rhestr o’r caneuon oedd David wedi’u dewis:
- Frank Sinatra – I Get a Kick Out of You
- Leonard Cohen – Avalanche
- The Fall – Middle Mass
- Captain Beefheart and the Magic Band – The Dust Blows Forward ‘n The Dust Blows Back
Hen Wlad Fy Nhadau
Trac ar y casgliad o ail-fersiynau caneuon Jarman, Hen Wlad Fy Nhadau.
Mae’r trac hwn ar gael ar y casgliad Radio Crymi Playlist Vol 1.
Ebost yn gweithio
Newydd sylweddoli mod i wedi sôn (ar Bandit) am gyfeiriad ebost datblygu@datblygu.com – dim ond nawr dw i wedi cofio seto hwnna lan.
Ymddirheuriadau i unrhyw un sy wedi’n hebostio ni a heb gael ymateb. Dylai fod yn iawn nawr.
A oes sganiadau?
Dyn ni wedi cael cwpl o sganiadau o gloriau prin ac ati, ond pethau oedd gyda ni yn barod oedd y rheini, yn anffodus. Falle byddai’n syniad i mi bostio rhestr yma o bethau sy ddim gyda ni, er mwyn i bobl helpu mas. Bydd y rhestr yma yn tyfu, wrth i mi ail-gydio yn y gwaith sganio (wedi bod yn fishi gyda “gwaith” yn diweddar).
Os oes rhywbeth gyda chi, gadewch sylw yma, neu gysylltu â fi trwy ebost.
- Putsch – angen sgan o glawr a label y record (mae caset gyda fi)
- Peel Sessions – angen sgan o glawr a label y record
- Wyau a Pyst – cloriau a labeli y ddau record gwreiddiol
Ll.Ll v. T.G. v. DRE – angen sgan o glawr a label y record
Adran Fideos
Diolch i Dafydd, sy wedi postio fideos Datblygu ar YouTube, mae gyda ni adran fideos fach. Gobeithir y bydd mwy o bethau yn ymddangos fan hyn co bo hir.
Adran gigs
Wedi dechrau adran gigs (dim lot i’w weld, hyd yn hyn). Yn y pen draw, gobeithiwn greu rhestr o bob gig gan y band, a bydd lle i bobl buodd yna ychwanegu eu hatgoffion.
Erthyglau o’r wasg
Wedi dechrau ar y gwaith o lanlwytho erthyglau o’r wasg. Daw’r rhan fwya o’r pethau cynnar o gasgliad personol David Edwards.
Cystadleuaeth Sebon
Manylion i’w dilyn – wotsh ddys sbeis…
Cwpl mwy o gloriau
Newydd ychwanegu lluniau o gwpl mwy o gloriau, sef y casetiau cynnar Amheuon Corfforol a Fi Du. Diolch i Pat am anfon y rhain.
Helo, byd
Wel, mae’r safle yn dechrau siapo nawr. Bydd mwy o gynnwys yn cael ei ychwanegu dros yr wythnosau nesa.
Falch iawn gweld bod pobl wedi dechrau creu cyfrifau yma, ond mae rhaid ymddiheuro bod hi ddim wedi bod yn bosibl, tan nawr, i fewngofnodi a gadael sylw. Mae hyn yn gweithio nawr, gobeithio, felly plîs, dwed helo.
David R. Edwards
Bydd y dudalen hon yn llawn o wybodaeth am Dave Datblygu. O, bydd.
T. Wyn Davies
Alcohol
Trac ar y sengl 7″/caset Putsch – ar gael ar y casgliad Datblygu 1985 – 1995.
Amnesia
Trac ar y sengl 7″/caset Putsch – ar gael ar y casgliad Datblygu 1985 – 1995.
Mat Cwrw O Uffern
Trac ar yr albym Libertino.
Nid Y Waltz Olaf
Trac ar yr albym Libertino.
Hei George Orwell
Trac ar yr albym Libertino.