Diwedd y sganiadau?

O’r diwedd, dw i wedi dod i ben efo’r gwaith sganio popeth oedd gyda fi yma ers blynyddoedd, y rhan fwya o ddwylo Pat, nôl yn 2006. Ymddiheuriadau bod hyn wedi cymryd cymaint o amser, a diolchiadau mawrion i Pat, David, Malcolm Gwion, a phawb arall sy wedi anfon stwff ata i yn y blynyddoedd diwetha. Gobeithio bydd ypêts y dyfodol bach yn fwy prydlon.

Ta beth, dyma’r tudalennau newydd, neu’r hen dudalennau gyda chynnwys newydd arnynt:

Amheuon Corfforol, nodiadau o’r clawr mewnol, ac adolygiad gan Sion Sebon.

Tudalennau i gwpl o gasetiau bootleg: Harlow/Aberystwyth/Bangor ac Maent yn Saethu Ceffylau….

Mae tudalen Caneuon Serch i Bobl Serchog bellach yn cynnwys sganiadau o’r clawr, ac mae hysbyseb anhysbys wedi’i ddarganfod mewn amlen oddi wrth Malcolm Gwion.

Clawr caset Pop Peth.

Syth o’r Rhewgell – sganiadau y ffansîn cyfan o 1985.

Wedi ychwanegu tudalen newydd i restru Gigs Cronoleg Datblygu. Sdim llawer yno hyd yn hyn, ond bydd yn tyfu yn y man. Os oes unrhyw gwybodaeth, cofion, sganiadau neu recordiadau, cysylltwch trwy adael neges unrhywle ar y wefan, neu trwy ebostio fi.

Digon i’w wneud o hyd, ond mae’n braf cael popeth sy gyda fi ar bapur ar y we o’r diwedd.

2 Ateb i “Diwedd y sganiadau?”

  1. David yw’r person gorau i helpu gyda’r cronoleg. Mae ei gof e’n well na neb!

  2. Dyw e ddim ar lein o hyd, nag yw? Fydde rhywun yn fodlon anfon ei gyfeiriad post ata i (nicdafis@gmail.com) – mae’n hen amser i fi sgwennu ato.

Mae'r sylwadau wedi cau.