Datblygu yng Ngŵyl Dinefwr

Bydd sesiwn arbennig yn ystod Gŵyl Dinefwr, dydd Sadwrn, 30 Mehefin:

Trafodaeth ar ‘Datblygu a Sin Gerddorol Gymraeg yr 80au a’r 90au’ gyda’r cynhyrchydd Dyl Mei, y cyn newyddiadurwr i’r NME Iestyn George a’r cynhyrchydd ffilm Owain Llŷr.

Hefyd:

[blackbirdpie id=”205232790453747713″]

Don’t know if there’ll be translation available for this, but check it out, if you can:

Discussion on ‘Datblygu and the Welsh Music Scene’ with producer Dyl Mei, ex NME writer Iestyn George and Owain Llŷr.

Y Gorffennol i’r Presennol

Fformat: Caset.
Label: Casetiau Neon, Neon 013
Dyddiad: 1984

Yn cynnwys y gân “Defaid y Disgo”.

Mae’r caset yn cael ei grybwyll mewn disgyddiaeth Datblygu yn y ffansîn Psycho, Haf 1992. Dw i erioed wedi gweld copi, ac am wn i, ddim wedi clywed y gân chwaith.

Clwb 23, Aberystwyth, 10/12/92

Wedi ffeindio sgan o’r ffleiar (tocyn?) hwn ar Flickr sy’n sôn am “Parti Nid’dolig / Saturnalia”. Roedd y gig yn Club 23, Seabank, ond dw i ddim yn gwybod beth oedd hynny, ac mae fy Google-fu wedi fy methu am y tro cynta heddi.

(7/5/12) Diolch i Iwan am ei nodyn isod:

Clwb 23 yn noson oedd yn digwydd yn achlysurol yn Aberystwyth (o’r côd post SY23 am wn i) mewn amryw o lefydd fel y Seabank a’r Boar’s Head.

Country Teasers – Secrets in Welsh

Roedd sgans o’r clawr yn y stwff ces i gan Pat, dw i’n gweld bod copi o’r record yn yr arddangosfa yn Waffle, a dw i wedi clywed y band yn cael eu disgrifio fel “Scottish Datblygu tribute band”; ond maen nhw’n lot mwy na hynny, hefyd.

Mae’n amlwg bod Country Teasers wedi slipo trwy fy rhwyd i, yn amlwg, achos doeddwn i ddim yn gwybod dim byd mwy amdano, nes i fi ddechrau trial ffeindio copi o’r trac ’ma:

[mp3]

Ffeindies i’r trac fan hyn. Mae ar gael ar y CD hwn, ond dw i’n methu ffeindio ffordd o brynu hynny.

Gwyrdd – caset Plaid Cymru

Fformat: Caset.
Label: Fflach Records – C053C
Dyddiad: 1989

Traciau

  • A1 U-Thant – Pasti
  • A2 Edrych Am Jiwlia – Cydwybod Euog
  • A3 Jess – Hunllef
  • A4 Ffa Coffi Pawb – Gwneud Fy Mhen I Mewn
  • B1 Crumblowers – Pwll
  • B2 Datblygu – Syrffedu
  • B3 Anhrefn – Gwesty Cymru
  • B4 Madfall Rheibus – Hapus


Trefnwyd y tâp gan Ieuenctid Plaid Cymru Caerfyrddin fel ein cyfraniad i’r sîn roc yng Nghymru. Diolch i Fflach a’r grŵpiau am eu cydweithrediad a diolch i Tudur.

Plaid Cymru dros bobl Cymru.

Cofnod discogs.

Angylion Hardd : Adennydd Mawr

Sampler Ankst Rhad ac am Ddim

Fformat: CD.
Label: Recordiau Ankst – ANKST 081
Dyddiad: 1997
Recordiwyd: Amryw.

Traciau

  1. Rheinallt H. Rowlands – Carchar Meddwl Meddal
  2. Topper – Something To Tell Her
  3. Ectogram – This Is How It Is
  4. Geraint Jarman A’r Cynganeddwyr – Segontium
  5. Datblygu – Amnesia
  6. Melys – Ni Ddisgynna’r Aderyn
  7. Llwybr Llaethog – Mondo Mando
  8. David Wrench – Blow Winds Blow

Nodiadau gan David:

Oscar Wilde stated that all art was useless. However, he lived in a time before compact discs. Once upon a time, C.D.’s were a status symbol – just as L.P.’s were in the 1960’s. Nowadays, thankfully, 20 years after punk became commercial, a C.D. of this quality becomes freely available.

Within the so-called Welsh scene, the artists inhabit their own worlds – however there is no competition between them, only co-operation… How different to the horrible realities of the National Eisteddfod and professional sport.

Healthy competition does not exist.

Schools encourage it.

If we didn’t have so many schools, we wouldn’t need as many hospitals.

It’s much better to see music at sports stadiums than overpaid actors chasing balls when there are people who are homeless or being crippled by work.

Music unites – even snooker divides. And if anyone finds the contents of this C.D. boring, it’s not as boring as cricket. It’s the sound of life, not bland background daytime radio for the construction industry or people suffering exam revision. For those who have outgrown books, there’s poetry here. It’s a film soundtrack too – the film is in front of your eyes, not in the cinema.

So, pour yourself a drink, listen and enjoy.

Repeat the dose, and carry on and on.

Love, David, Datblygu, May ’97

Casnewydd, 28/1/86

O wefan Link2Wales:

28.01.1986 – Anhrefn, Datblygu play Stow Hill Labour Club, Newport (Blurt didn’t show up)

Pwt bach yma am y clwb:

According to this site, Hüsker Dü’s 23 Sep 1985 date here was the band’s first UK gig outside of London, (which casts further doubt on the accuracy of the purported 26 Jul 1985 Manchester Hacienda date. No other info available.

Lluniau o’r gig Hüsker Dü. Ddim yn berthnasol iawn, ond dw i’n hoffi Hüsker Dü, ac mae’n dangos pa mor fach oedd y llwyfan yn y clwb ‘ma.

Rhagor o luniau Datblygu 30

Cyrhaeddodd lwyth arall o luniau o’r arddangosfa heddi, sy’n wedi tyfu dros yr wythnosau diwetha: mae’r batch ‘ma yn cynnwys sawl golwg agos o bethau dw i heb sylwi arnynt o’r blaen, fel poster am y gig hawliau anifeiliaid, a llun o datŵ Sarah Datblygu. Hoff iawn o’r casetiau mewn ffrâm, hefyd.

Diolch yn fawr i Victoria am eu rhannu. Cliciwch ar y lluniau cryno i’w chwyddo.