Y Plu, Aberaeron, 9/4/94

Mewn Plu

Datblygu, Catatonia, Cerrig Melys a mwy, yn dathlu Parti Pasg Cymdeithas yr Iaith.

(Diolch yn fawr i Stanno am y sgan isod.)

Fuoch chi yn y gig ’ma? Llosgwch eich tafodau isod…

Rhyw Ddydd, Un Dydd, 7/12/91

Gig anferth ym Mhontrhydfendigaid, i godi arian at Gymdeithas yr Iaith. Yn ôl Emyr Williams, ar ei raglen radio Helo rhywbeth newydd, ffarwel rhywbeth hen (2009):

Yn syml, mae’r mudiad pwyse CYIG wedi rhedeg allan o bres ac mae ‘na rhyw fath o gig Iaith Aid yn digwydd efo dros 20 o grwpie ac artistiaid Cymru yn dod at ei gilydd i chwara am ddim i godi arian.

Yn sicr ma hwn yn rhwy fath o gydnabyddiaeth fod rol y gymdeithas wedi bod yn allweddol ond hefyd mae ‘na doriad yn digwydd yn y berthynas rhwng y ddau.

Un waith eto, roedd Medwyn Jones yn tynnu lluniau. Diolch iddo am eu cyhoeddu dan drwydded Comins Creadigol.

Datblygu

Datblygu

Datblygu

Datblygu

Fuoch chi yno? Rhannwch eich atgofion melysion, neu surion, yn y blwch bwrw bol isod.

Pesda Roc, 13/7/85

Gŵyl roc ym Methesda, ar yr un diwrnod â gŵyl fach arall. Gwell lein-yp yn Pesda, rhaid dweud: Y Cyrff, Machlud, Mwg, Llwybr Cyhoeddus, Tanjimei, Pryd Ma Te?, Brodyr y Ffin, Datblygu, Tynal Tywyll, Maraca, Ficer, Eryr Wen, Chwarter i Un, Dinas Naw. (Yn ôl hyn.) Dim sôn am Phil Collins yn agos i’r lle.

Dyma’r gig lle tynnodd Medwyn Jones ei luniau eiconeg o’r band, ac llawer o fandiau eraill hefyd.

Datblygu

“A photo in the booklet for Wyau/Pyst/Libertino, the essential collection of Datblygu albums, shows a temporary stage housed on a huge truck, somewhere in Wales, covered by a tarpaulin and occupied by Datblygu themselves. You have to look twice to notice anyone apart from vocalist David R Edwards, who’s standing on the lip and barking at six children sitting on the grass wearing anoraks. It’s an image so dreary and purgatorial, you imagine that despite being a black and white picture, it was taken using colour film. Intentionally or otherwise, it conveys the notion of a prophet unrecognised in his own land, which is at least a half-truth…”

(Plan B)

Datblygu

Pat Morgan, Datblygu

David R Edwards, Datblygu

(Y lluniau uchod i gyd wedi’u rhannu ar Flickr GanMed64, dan drwydded Comins Creadigol. Peidiwch ag eu defnyddio heb roi cydnabyddiaeth iddo, da chi.)

Oes atgofion gyda chi o’r gig hwn? Oedd e mor ddiflas ag mae’n edrych yn y lluniau? Dreary and purgatorial yn swnio braidd yn harsh i fi, ond doeddwn i ddim yna.

Casglu dyfyniadau Datblygu

Wedi dechrau cynnwys dyfyniadau o ganeuon Datblygu ar y dudalen flaen, ac angen eich help chi, ddarllenwyr a chefnogwyr Datblygu annwyl, wrth adeiladu rhestr hirfaith o eiriau bendigedig.

Y ffordd hawsaf o lawer (i fi) yw ‘sech chi’n dyfynnu’r geiriau isod yn y blwch sylwadau, ynghyd ag enw y gân (neu ffynhonell arall – gallwn ni gynnwys dyfyniadau pobl eraill am y band). Mae’n bosibl bydda i’n ychwengu pethau dw i wedi gweld mewn llefydd eraill, fel Twitter, ond mae’n hawdd i fi golli pethau fan ‘na.

The Peel Sessions 1987 – 1993

Fformat: CD
Label: Recordiau Ankst – ANKST 119.
Dyddiad: 2008.
Recordiwyd: Stiwdio Maida Vale, Llundain
Cerddorion: David R. Edwards, T. Wyn Davies, Patricia Morgan.

1987
1 Bagiau Gareth
2 Carpiog
3 Cerddoriaeth Dant
4 Nesaf
1988
5 Fanzine Ynfytyn
6 Cristion Yn Y Kibbutz
7 Gwlad Ar Fy Nghefn
8 Dros Y Pasg Eto
1991
9 Pop Peth
10 Slebog Bywedeg
11 Nid Chwiwgi Pwdin Gwaed
12 Rhag Ofn I Chi Anghofio
1992
13 Hymne Europa 1992
14 Dim Deddf Dim Eiddo
15 Rauschgiftsuchtige
16 Hablador
1993
17 Clwb 11-18
18 Wastod Absennol
19 Mae Arian Yn Tyfu Tu Mewn Coed
20 Diahorrea Berfol

Radio Amgen CDr

Fformat: CDr.
Label: Fitamin Un – Fit! 015
Dyddiad: 2005

Traciau
1 Un Caddie Renverse Dans L’Herb – Jazmb
2 Dyl Bili – Siop Siafins
3 Sleifar a Paul B – Radio Amgen
4 Cofi Bach a Tew Shady – Triwch Hi Ar!
5 Lladron – Nicyrglorimundo
6 Datblygu – Mynd
7 Norman Lewis – Gibberish Reggae
8 Rhyw Hen Foi a Rhyw Hen Foi Arall – Ofcom
9 Mushroom Grip V DJ Lambchop – Drag’n’Drop (Curiad Amgen)
10 Y Dull Duckworth Lewis – Gwagle
11 Dirgel Ddyn – Morthwyl Yn Y Pen
12 Stabmaster Vinyl – Slepjan!
13 Kenavo – Abersoch Llawn Moch
14 Red Falls – Lunar
15 Defaid ‘Gidol – Selsig
16 Gwallt Mawr Penri – Dwi’n Licio Dafydd Iwan
17 Llwybr Llaethog – Rajah’s Dyb
18 Dyfodol Digidol – Dama Blanca
19 Cymal 3 – I’r Gwely
20 Lladron – Tystion’s Way

CDr ddaeth yn rhad ac am ddim gyda rhif 10 y ffansîn Brechdan Tywod.

Roedd traciau Datblygu yn rhan o sawl darllediad Radio Amgen.

Under The Influence

Compiled by Super Furry Animals

Fformat: CD.
Label: DMC, UTICD006
Dyddiad: 2005

Traciau

1 Beach Boys, The – Feel Flows
2 The Undertones, The – My Perfect Cousin
3 Datblygu – Casserole Efeilliaid
4 Gorky’s Zygotic Mynci – Christina
5 Sly & The Family Stone – Family Affair
6 Dawn Penn – You Don’t Love Me (No, No, No)
7 Electric Light Orchestra – Telephone Line
8 Dennis Wilson and Rumbo – Lady
9 Meic Stevens – Ghost Town
10 MC5 – Kick Out The Jams
11 Jussi Bjorling – Au Fond Du Temple Saint (The Pearl Fishers)
12 Underworld – Rez
13 Humanoid – Stakker Humanoid (Snowman Mix)
14 Joey Beltran – Energy Flash
15 Hardfloor – Acperience 1

Nodiadau o’r clawr

“A collection of musical influences & inspirations.”

Diwedd y sganiadau?

O’r diwedd, dw i wedi dod i ben efo’r gwaith sganio popeth oedd gyda fi yma ers blynyddoedd, y rhan fwya o ddwylo Pat, nôl yn 2006. Ymddiheuriadau bod hyn wedi cymryd cymaint o amser, a diolchiadau mawrion i Pat, David, Malcolm Gwion, a phawb arall sy wedi anfon stwff ata i yn y blynyddoedd diwetha. Gobeithio bydd ypêts y dyfodol bach yn fwy prydlon.

Ta beth, dyma’r tudalennau newydd, neu’r hen dudalennau gyda chynnwys newydd arnynt:

Amheuon Corfforol, nodiadau o’r clawr mewnol, ac adolygiad gan Sion Sebon.

Tudalennau i gwpl o gasetiau bootleg: Harlow/Aberystwyth/Bangor ac Maent yn Saethu Ceffylau….

Mae tudalen Caneuon Serch i Bobl Serchog bellach yn cynnwys sganiadau o’r clawr, ac mae hysbyseb anhysbys wedi’i ddarganfod mewn amlen oddi wrth Malcolm Gwion.

Clawr caset Pop Peth.

Syth o’r Rhewgell – sganiadau y ffansîn cyfan o 1985.

Wedi ychwanegu tudalen newydd i restru Gigs Cronoleg Datblygu. Sdim llawer yno hyd yn hyn, ond bydd yn tyfu yn y man. Os oes unrhyw gwybodaeth, cofion, sganiadau neu recordiadau, cysylltwch trwy adael neges unrhywle ar y wefan, neu trwy ebostio fi.

Digon i’w wneud o hyd, ond mae’n braf cael popeth sy gyda fi ar bapur ar y we o’r diwedd.

Aberhonddu, 4/7/86

Ddim yn siwr am ddyddiad y gig ‘ma. Debyg bod y caset yma, neu’r un fan hyn, wedi’i gam-labeli, oni bai bod y band wedi gyrru o un pen Cymru i’r llall mewn diwrnod.

Prifysgol Manceinion, 28/2/87

Mae dyddiadur Chris yn cynnwys adolygiad o’r gig:

Datblygu turned up from their hut in mid-Wales, a line up that is David, Patricia and a drum machine and in front of about 70 to 80 people; including bar staff and sound engineers they raised their ugly heads and peered at the unsuspecting faces. They’ve been called Kraftwerk with a hangover and their music falls into The Fall [sic] mould and I can only describe it as an experience, a spectacle actually! Both David and Patricia’s attitude seemed to be one of total disinterest, as if they were hating every second of their own performance but were unable to do anything to stop it.

Very few bands like an in-house PA and Datblygu are no exception as David continually demanded, ‘Will you turn the fucking drum machine up please.’ He repeated the line so often that fitted quite well into the song!

The Datblygu experience (my first time!) was perhaps not as long as it should’ve been for me to fully get what they were about, their set included titles such as Tymer Asprin, Mynd and the near legendary Peel favourite Casserole. Perhaps the idea was to give the audience a short sharp shock, whereas in reality it was a slow, dull uncomfortable pain – they’ll probably go a long way… if they wanted to.

Maent yn Saethu Ceffylau

…a chyn aelodau o Hergest. Bootleg dw i heb ei glywed, sy’n cynnwys traciau awdio o’r sioe Fideo 9, recordiad o gig ym Mhontardawe yn 1988, a sesiwn a hanner o’r sioe John Peel (sy bellach ar gael ar CD).

Oes rhywun â chopi?