Llmych – 1986

Cyfweliad â Dave a Pat, erthygl John Peel o’r Observer, a manylion gig Red Wedge yn Aberhonddu (wnaeth Datblygu chwarae yn hyn?) i gyd o’r ffansîn Llmych, rhywbryd yn 1986, siwr o fod. 1987, efallai.

Diolch i Rhys Williams am y sganiadau. Mae Rhys yn dweud:

…neu “YChMLL!” fel oedd rhifyn 7 yn cael ei adnabod.
Ffansin gan GyIG o ochrau Clwyd, o gwmpas 86 dwi’n tybio.

Delweddau

Llmych 1/3

Llmych 2/3

Llmych 3/3

Hwgr-grawth-og

Fformat: 7″ Estynedig.
Label: Recordiau Anrhefn – ANRHEFN 008.
Dyddiad: 1986.
Recordiwyd:Stiwdio Foel, Llanfair Caereinion
Cerddorion: David R. Edwards, Patricia Morgan.

Traciau

Mae’r traciau ar gael ar y CD Datblygu 1985-1995.

Hwgr-Grawth-Og - Clawr blaen
Hwgr-Grawth-Og – Clawr blaen

Hwgr-Grawth-Og - Clawr cefn
Hwgr-Grawth-Og – Clawr cefn

Hwgr-Grawth-Og - Geiriau Cymraeg
Hwgr-Grawth-Og – Geiriau Cymraeg

Hwgr-Grawth-Og - Geiriau Saesneg
Hwgr-Grawth-Og – Geiriau Saesneg

Hwgr-Grawth-Og - Label A
Hwgr-Grawth-Og – Label A

Hwgr-Grawth-Og - Label B
Hwgr-Grawth-Og – Label B

Hwgr-grawth-og a siartiau’r Cymro

Tro nesa ti am gwyno am gyflwr yr EssEnnEgg, tria ddychmygu sut oedd pethau yn 1987, pan oedd ond dau label yng Nghymru, mae’n debyg, Sain y Sefydliad ac Anhrefn yr Anhrefnus.

Diolch i Dave a Pat am y sganiadau.

18/02/87
1987_02_18_y_cymro

25/02/87
1987_02_25_y_cymro

04/03/87
1987_03_04_y_cymro

11/03/87
1987_03_11_y_cymro

18/03/87
1987_03_18_y_cymro

Syth o’r Rhewgell – Ebrill 1985

Cyfweliad â Dave yn Rhifyn 1 y ffansîn o Aberhonddu.

Diolch i Rhys Williams am y sgan. Mae Rhys yn dweud:

O’r ffansin “Yn Syth O’r Rhewgell”, Rhif 1, Ebrill 1985, gan John Jones a Heulwen Jones o Aberhonddu. Blynyddoedd cyn y llinell o “Pop Peth” ond dwi’n siwr bod ‘na gysylltiad.

Debyg iawn.

Syth o'r Rhewgell 1/2

Golygwyd: Roedd sganiadau y ffansîn i gyd mewn amlen gyda fi, wedi’u hanghofio. Llungopiau lliw o’r fersiwn gwreiddiol oedd y rhain. Yn anffodus, maen nhw wedi’u tocio tipyn bach.

Caneuon Serch i Bobl Serchog

Fformat: Caset, 100 copi.
Label: Casetiau Neon – NEON 015.
Dyddiad: 1984.
Recordiwyd: Stiwdio Fflach, Aberteifi a Gwelfryn (cartref DRE)
Cerddorion: David R. Edwards, T. Wyn Davies, Patricia Morgan.

Traciau

  1. Yn y Lle Yma
  2. Daeardy
  3. Straen
  4. Yr Arswyd
  5. Helbulon
  6. Dros y Pasg

Nodiadau “Caneuon Serch i Bobl Serchog” caset 4 Datblygu

Byd pop Cymraeg: yr un peth â 1974… nid oes ysbryd/arddull gan y pennau-professiynol ffug R&R hynny. Ond ni yw Datblygu…

Y newyddion diweddaraf:
Aelod ychwanegol: Patricia Morgan – Gitar Bâs
Hefyd, yn ystod Haf 84 gwnaeth Datblygu fwy o gynherddau nac mewn un cyfnod gynt. Roedd rhai ohonynt yn flops oherwydd PAs A.Y.B. ond roedd y rhan fwyaf ohonynt yn O.K. serch hynny. Roedd rhaid i ni chwerthin pan glywsom adolygraig radio yn ein cymharu efo Malcolm Gwyon: mae hynny r’un peth â chymharu ni efo Frank Bough gan fod y ddau wedi ymddangos ar y teledu…

Gwastraff arian/amser: recordiodd Datblygu sesiwn radio ar gyfer ‘Cadw Reiat’ ond cafodd ei wrthod gan gynhyrchydd y rhaglen.

Ta waeth dyma pedwerydd caset Datblygu, sy’n gwneud y sg⊚r:

Byd Pop 0 Datblygu 4

Y Caset: Recordiwyd y caneuon yn Aberteifi yn Awst/Medi 1984 – Yn Y Lle Yma + Helbulon yn ‘Stiwdio Fflach’ a’r 4 darn arall yn ‘Stiwdio Gwelfryn’. Y cynhyrchu: Stiwdio Fflach – Wyn Jones; Stiwdio Gwelfryn – Datblygu. Diolch i Wyn Jones ac hefyd i Malcolm Gwyon am ei help e. Hefyd diolch i Emlyn Humphries am ei help, cefnogaeth ac amser. Diolch yn olaf i Graham Bowen am chwarae y ‘pan pipes’ ar ‘Helbulon’.

Y Caneuon: Mae ‘Yn Y Lle Yma’ yn delio gydag ysbryd Aberteifi/Cymru/Y Byd yn ystod ’84 fel mae ‘Dros Y Pasg’. Mae’r darnau eraill yn fwy ‘introspective’. (Sori am y gair Saesneg ond nid wyf am fod yn aelod o’r Orsedd). Os nad ydych yn gallu uniaethu o gwbl efo cynnwys y caset yma, chi’n hapus 100% o’r amser: hoffen i fod…

Y Dyfodol: Mwy o gigs/cynnyrch newydd: casetiau a recordiau/Fyddwn yn cyfrannu at weithgareddau Recordiau’r Anhrefn yn ogystal â rhyddhau casetiau yn gyson. Diolch i Rhys a Sion am eu cynnig i ymddangos ar ‘Recordiau’r Anhrefn’ ac am eu cefnogaeth ers y dechrau.

Am nawr, diolch yn fawr + hwyl.

David R. Edwards (ar rhan Datblygu), Hydref 1984.

Caneuon Serch i Bobl Serchog:

T.Wyn Davies: Drymiau/Allweddellau/Organ Geg/Llais Cefndir etc.
Patricia Morgan: Gitar Bâs/Llais Cefndir
David R. Edwards: Prif Lais/Gitarau/Allweddellau etc.

Cyfansoddwyd y caneuon gan David R. Edwards ;
Trefnwyd y caneuon gan Datblygu.
Cynllun clawr y caset: T. Wyn Davies

Cyfeiriad: Datblygu c/o 7 Y Rhos, Aberteifi, SA43 1NJ

Help llaw: Gair ‘Cosmig’ = system o syniadau trefnus: safonol huh??
‘Daeardy’ = cell o dan ddaear c.f. y fynwent. ie ? na ?
pasg – yr iesu ar y groes, ond mae dynoliaeth hefyd yn diodde.

(Ni chyflwynwyd ‘Help Llaw’ gan pseud academig o Gymro) (Felly y mae’n rwyddach i ddeall na rhai o raglenni ‘difrifol S4C’ (??) )

“Ydych chi’n gallu dibynnu ar eich teimladau a’r hyn sy’n rheoli eich syniadau?

Tu ol pob gobaith, y mae amheuaeth YN Y LLE YMA!” .. singalongseicolegol

Trosglwyddo’r Gwirionedd

Fformat: Caset, 100 copi.
Label: Casetiau Neon – NEON 009.
Dyddiad: 1983.
Recordiwyd: Gwelfryn (tŷ DRE.
Cerddorion: David R. Edwards, T. Wyn Davies.

Traciau

(Ffeindiwyd yr MP3s ar y we flynyddoedd yn ôl – oes rhywun gyda chopiau gwell?)

  1. Y Ferch yn y Swyddfa [MP3]
  2. Cariad yn y Rhewgell [MP3]
  3. Yr Uchafbwynt Uchaf [MP3]
  4. Adeiladu Cnawd [MP3]
  5. Blas Cas [MP3]
  6. Bar Hwyr (Pop Cymru) [MP3]
  7. Dyma Diwedd Y Poen Terfynol [MP3]

Adolygiadau ac ati