Prosiect Datblygu

Ffilm newydd am y band gan Owain Llŷr, gyda’r ymddangosiad cyntaf yn y sinema digidol newydd sbon yn Theatr Mwldan, Aberteifi.

23 Tach., 24 Tach., 25 Tach., 26 Tach. yn Mwldan 3

Mynnwch eich tocynnau nawr.

Wedi ei eni mewn ystafell wely tri deg mlynedd yn ôl yn Aberteifi, cyflwynwyd y band Datblygu fel y gr?p iaith Gymraeg modern gyntaf; cafodd ei gerddoriaeth ddigyfaddawd ei ddisgrifio fel athrylith, a dywedwyd bod ei ddylanwad ar gerddoriaeth yn anfesuradwy. Wedi ei arwain gan y bardd rebel carismatig anarchaidd David R. Edwards, daeth y gr?p i ddiffinio’r hyn a alwodd Gareth Potter o D? Gwydr yn ‘enaid sin tanddaearol Cymreig’ yn y 1980au. Gwnaeth safbwynt asidig Datblygu o Gymru fodern – y bourgeoisie artistig a gwleidyddion oedd y targedau amlwg – rhyddhau cenhedlaeth gyfan o fandiau ac artistiaid. Mae pum sesiwn gyda’r enwog John Peel ar Radio 1 yn rhywfaint o fesur o’r yr effaith a gawsant. Cafodd y band ei gefnogi gan Peel, ond yn eironig cafodd ei anwybyddu gan y cyfryngau prif ffrwd yng Nghymru, roedd y band yn rhan o sin tanddaearol egnïol oedd hefyd yn cynnwys Y Cyrff, Yr Anhrefn, Ffa Coffi Pawb a Llwybr Llaethog, mewn cynghrair randym a ail-ddiffiniodd cerddoriaeth boblogaidd iaith Gymraeg. Mae’r ffilm annibynnol newydd hon gan y cyfarwyddwr Owain Ll?r yn dathlu 30 mlynedd o Datblygu, ac mae’n cynnwys cyfweliadau hir gyda David R. Edwards a Patrica Morgan o’r gr?p, ynghyd ag eraill sy’n cofio’r gr?p anarchaidd hwn ar ei anterth. Mae Prosiect Datblygu yn dangos am y tro cyntaf yn Theatr Mwldan.

A new film about the band by director Owain Llŷr, with the premier in Theatr Mwldan’s new digital cinema. 23 Nov, 24 Nov, 25 Nov, 26 Nov at Mwldan 3.

Book your tickets here.

Born in a bedroom in Cardigan thirty years ago, the band Datblygu were hailed as the first truly modern Welsh-language group; their uncompromising, immense music has been described as genius, and their influence on Welsh music as immeasurable. Fronted by the charismatic and anarchic rebel poet David R. Edwards, the group came to define what T? Gwydr’s Gareth Potter calls ‘the soul of the Welsh underground scene’ in the 1980s. Datblygu’s acidic take on modern Wales – the artistic bourgeoisie and politicians were typical targets – liberated a whole generation of bands and artists. Five Peel Sessions with legendary Radio 1 DJ John Peel is some measure of the effect they had on the converted. Championed by Peel but ironically ignored by mainstream Welsh media, the band was part of an energetic underground scene which also included Y Cyrff, Yr Anhrefn, Ffa Coffi Pawb and Llwybr Llaethog, in a random alliance which re-defined Welsh language popular music. This new independent film from director Owain Llyr celebrates 30 years of Datblygu, and features extensive interviews with David R. Edwards and Patricia Morgan from the group, as well as notable others who remember this anarchic ensemble in its prime. Prosiect Datblygu premieres at Theatr Mwldan.
SUBTITLES

Datblygu ar “Music Arcades”

Wastad yn braf dod ar draws ffans Datblygu sy’n byw ochr draw y clawdd ieithyddol, yn enwedig pan maen nhw’n sgwennu cystal â hyn:

Not that the songs are all pretty. Sometimes listening to Datblygu is like being harangued by the drunk in the corner of the bar who you fear may be about to get violent or abusive at any moment. But you can’t tear away, and when he he hits his stride with his declamations you get the uneasy envious feeling that he has wallowed in beauty and joy that you, with your good sense and sobriety, have only glimpsed briefly.

Drueni ffeindio bod y blog wedi dod i ben erbyn hyn, gan ei fod wedi cyrraedd ei nod o sgwennu am bob un record sy yn ei gasgliad – sy’n syniad gwych am flog, gyda llaw, a ffordd dda o gael gwared o lot o records, siwr o fod.

Ta beth, dyma beth oedd ‘da fe i’w ddweud am ei records Datblygu, a ddaeth iddo trwy garedigrwydd ei gyfaill Medwyn – y Medwyn yma, am wn i.

Diolch i Rhys am bwyntio ma’s bod David (y blogiwr hanner-anhysbys) wedi sgwennu cymaint am Datblygu.

MP3 “Yr Arswyd”

Mae Dafydd Tomos wedi dod o hyd i gopi o’r gân Yr Arswyd, o’r caset Caneuon Serch i Bobl Serchog. Yn ôl Daf, roedd e wedi recordio’r gân oddi ar y radio yn y 90au cynnar.

[mp3]

Oes rhywun gyda mwy o’r caneuon yma ar ffurf digidol, tybed?

Mae e hefyd yn sôn am drac ar gaset Y Gorffennol i’r Presennol, a ddaeth ma’s ar Casetiau Neon yn 1984:

roedd can gan rhywun o’r enw “Myfyrwyr Moesoldeb” a roedd mam Dave yn canu arno!

Bydde’n wych ‘sai rhywun â chopi o hwnna rhywle.

Datblygu yng Ngŵyl Dinefwr

Bydd sesiwn arbennig yn ystod Gŵyl Dinefwr, dydd Sadwrn, 30 Mehefin:

Trafodaeth ar ‘Datblygu a Sin Gerddorol Gymraeg yr 80au a’r 90au’ gyda’r cynhyrchydd Dyl Mei, y cyn newyddiadurwr i’r NME Iestyn George a’r cynhyrchydd ffilm Owain Llŷr.

Hefyd:

[blackbirdpie id=”205232790453747713″]

Don’t know if there’ll be translation available for this, but check it out, if you can:

Discussion on ‘Datblygu and the Welsh Music Scene’ with producer Dyl Mei, ex NME writer Iestyn George and Owain Llŷr.

Country Teasers – Secrets in Welsh

Roedd sgans o’r clawr yn y stwff ces i gan Pat, dw i’n gweld bod copi o’r record yn yr arddangosfa yn Waffle, a dw i wedi clywed y band yn cael eu disgrifio fel “Scottish Datblygu tribute band”; ond maen nhw’n lot mwy na hynny, hefyd.

Mae’n amlwg bod Country Teasers wedi slipo trwy fy rhwyd i, yn amlwg, achos doeddwn i ddim yn gwybod dim byd mwy amdano, nes i fi ddechrau trial ffeindio copi o’r trac ’ma:

[mp3]

Ffeindies i’r trac fan hyn. Mae ar gael ar y CD hwn, ond dw i’n methu ffeindio ffordd o brynu hynny.

Rhagor o luniau Datblygu 30

Cyrhaeddodd lwyth arall o luniau o’r arddangosfa heddi, sy’n wedi tyfu dros yr wythnosau diwetha: mae’r batch ‘ma yn cynnwys sawl golwg agos o bethau dw i heb sylwi arnynt o’r blaen, fel poster am y gig hawliau anifeiliaid, a llun o datŵ Sarah Datblygu. Hoff iawn o’r casetiau mewn ffrâm, hefyd.

Diolch yn fawr i Victoria am eu rhannu. Cliciwch ar y lluniau cryno i’w chwyddo.

Y Plu, Aberaeron, 9/4/94

Mewn Plu

Datblygu, Catatonia, Cerrig Melys a mwy, yn dathlu Parti Pasg Cymdeithas yr Iaith.

(Diolch yn fawr i Stanno am y sgan isod.)

Fuoch chi yn y gig ’ma? Llosgwch eich tafodau isod…

Casglu dyfyniadau Datblygu

Wedi dechrau cynnwys dyfyniadau o ganeuon Datblygu ar y dudalen flaen, ac angen eich help chi, ddarllenwyr a chefnogwyr Datblygu annwyl, wrth adeiladu rhestr hirfaith o eiriau bendigedig.

Y ffordd hawsaf o lawer (i fi) yw ‘sech chi’n dyfynnu’r geiriau isod yn y blwch sylwadau, ynghyd ag enw y gân (neu ffynhonell arall – gallwn ni gynnwys dyfyniadau pobl eraill am y band). Mae’n bosibl bydda i’n ychwengu pethau dw i wedi gweld mewn llefydd eraill, fel Twitter, ond mae’n hawdd i fi golli pethau fan ‘na.

Diwedd y sganiadau?

O’r diwedd, dw i wedi dod i ben efo’r gwaith sganio popeth oedd gyda fi yma ers blynyddoedd, y rhan fwya o ddwylo Pat, nôl yn 2006. Ymddiheuriadau bod hyn wedi cymryd cymaint o amser, a diolchiadau mawrion i Pat, David, Malcolm Gwion, a phawb arall sy wedi anfon stwff ata i yn y blynyddoedd diwetha. Gobeithio bydd ypêts y dyfodol bach yn fwy prydlon.

Ta beth, dyma’r tudalennau newydd, neu’r hen dudalennau gyda chynnwys newydd arnynt:

Amheuon Corfforol, nodiadau o’r clawr mewnol, ac adolygiad gan Sion Sebon.

Tudalennau i gwpl o gasetiau bootleg: Harlow/Aberystwyth/Bangor ac Maent yn Saethu Ceffylau….

Mae tudalen Caneuon Serch i Bobl Serchog bellach yn cynnwys sganiadau o’r clawr, ac mae hysbyseb anhysbys wedi’i ddarganfod mewn amlen oddi wrth Malcolm Gwion.

Clawr caset Pop Peth.

Syth o’r Rhewgell – sganiadau y ffansîn cyfan o 1985.

Wedi ychwanegu tudalen newydd i restru Gigs Cronoleg Datblygu. Sdim llawer yno hyd yn hyn, ond bydd yn tyfu yn y man. Os oes unrhyw gwybodaeth, cofion, sganiadau neu recordiadau, cysylltwch trwy adael neges unrhywle ar y wefan, neu trwy ebostio fi.

Digon i’w wneud o hyd, ond mae’n braf cael popeth sy gyda fi ar bapur ar y we o’r diwedd.